Enghraifft o'r canlynol | amgueddfa leol, oriel gelf, amgueddfa annibynnol |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1818 |
Lleoliad | Truru |
Rhanbarth | Cernyw |
Gwefan | https://www.royalcornwallmuseum.org.uk |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae gan Amgueddfa Frenhinol Cernyw (Saesneg: Royal Cornwall Museum) ym mhrifddinas Cernyw, Truru gasgliad helaeth o fwynau sydd wedi’i wreiddio yn nhreftadaeth mwyngloddio a pheirianneg Cernyw (gan gynnwys llawer o gasgliad mwynau Philip Rashleigh). Adlewyrchir treftadaeth gelfyddydol y sir yng nghasgliad celf yr amgueddfa.[1] Trwy Lyfrgell Courtney mae’r amgueddfa hefyd yn darparu casgliad o lyfrau a llawysgrifau prin i helpu gydag addysg, ymchwil a darganfod bywyd a diwylliant Cernyweg.
Mae’r amgueddfa hefyd yn amlygu perthynas Cernyw â’r byd ehangach trwy un o ymfudiadau Prydeinig mwyaf arwyddocaol y 19g. Mae'r amgueddfa'n cynnal arddangosfa barhaol o hen wrthrychau Eifftaidd, Groegaidd a Rhufeinig, gyda chefnogaeth yr Amgueddfa Brydeinig.
Mae'r amgueddfa yn rhan o Sefydliad Brenhinol Cernyw (RIC), cymdeithas ddysgedig ac elusen gofrestredig.[2]